Agenda - Y Cyfarfod Llawn


Lleoliad y cyfarfod:

Y Siambr - Y Senedd

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mawrth, 13 Chwefror 2018

Amser y cyfarfod: 13.30
 


119(v2)  

------

<AI1>

1       Cwestiynau i'r Prif Weinidog

(45 munud)

Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.

 

Gweld y Cwestiynau

</AI1>

<AI2>

2       Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

(30 munud)

 

Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

</AI2>

<AI3>

3       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid: Cynllun Gwaith Polisi Treth 2018, gan gynnwys Trethi Newydd

(45 munud)

Dogfen Ategol
Fframwaith polisi trethi

 

</AI3>

<AI4>

4       Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Pwysau'r Gaeaf

(45 munud)

</AI4>

<AI5>

Cynnig i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân  (15 munud):

</AI5>

<AI6>

5       Rheoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018

NDM6653 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar  18 Ionawr 2018.
Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

</AI6>

<AI7>

6       Rheoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018

NDM6652 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1.  Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gofal Cymdeithasol Cymru (Pennu Gweithwyr Gofal Cymdeithasol) (Cofrestru) (Diwygio) 2018 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 23 Ionawr 2018.


Dogfennau Ategol
Memorandwm Esboniadol (Saesneg yn unig)
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol


 

</AI7>

<AI8>

7       Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol

(15 munud)

NDM6651 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Arweiniad a Hawliadau Ariannol, sy'n ymwneud â sefydlu'r un corff arweiniad ariannol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Gorffennaf 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Tachwedd 2017 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2.

Mae copi o’r Bil i’w weld ar wefan Senedd y DU:

Bill documents — Financial Guidance and Claims Bill [HL] 2017-19 — UK Parliament (Saesneg yn unig)

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol Atodol
Adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg

</AI8>

<AI9>

8       Dadl:  Setliad terfynol yr Heddlu 2018-19

(60 munud)

NDM6649 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 2) 2018-2019 (Setliad Terfynol – Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu). Gosodwyd copi o'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2018.

</AI9>

<AI10>

9       Dadl:  Egwyddorion Cyffredinol y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

(60 munud)

NDM6655 Rebecca Evans (Gwyr)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru).

Gosodwyd Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 16 Hydref 2017.

Gosodwyd adroddiad Y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 31 Ionawr 2018.

Dogfennau Ategol
Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid


</AI10>

<AI11>

10   Cynnig i gymeradwyo'r Penderfyniad Ariannol ynghylch y Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru)

(5 munud)

NDM6656 Julie James (Gorllewin Abertawe)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

</AI11>

<AI12>

11   Cyfnod pleidleisio

 

</AI12>

<TRAILER_SECTION>

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30, Dydd Mercher, 14 Chwefror 2018

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

1.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

2.FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

FIELD_SUMMARY

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

FIELD_SUMMARY

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

FIELD_TITLE

FIELD_FOOTNOTE

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>